Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 24 Mawrth 2022
Amser:
09.15 -
14.57
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12628
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Ken Skates AS (Cadeirydd dros dro) Peter Fox AS (yn lle James Evans AS) Laura Anne Jones AS Buffy Williams AS Sioned Williams AS |
Tystion: |
Laura Doel, Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon Cymru Eithne Hughes, Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (Cymru) Mary van den Heuvel, Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru Kelly Harris, Brook Rebecca Williams, Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) Iestyn Wyn, Stonewall Cymru Mairead Canavan, Undeb Addysg Cenedlaethol Lowri Jones, Canolfan Breswyl yr Urdd Kerry Packman, ParentKind Professor EJ Renold, Prifysgol Caerdydd Chris Parry, National Association of Head Teachers (NAHT) Cymru Siobhan Parry, Platfform Ceri Reed, Lleisiau Rhieni yng Nghymru Sally Thomas, Plan UK International |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 O dan Reol Sefydlog 17.22 etholwyd Ken Skates AS yn Gadeirydd Dros Dro am y cyfarfod cyfan.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AS a James Evans AS, ac roedd Peter Fox AS yn dirprwyo ar ran James. Roedd Laura Jones AS yn absennol ar gyfer rhywfaint o eitem 3 ac o eitem 4 yn gyfan. Roedd Sioned Williams AS yn absennol ar gyfer eitem 6.
2 Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 6
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o undebau arweinwyr ysgolion.
2.2 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunwyd y byddai'r cwestiynau nas gofynnwyd yn cael eu hanfon at y tystion i gael ymateb ysgrifenedig.
3 Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymysg dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 7
3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o undebau athrawon.
4 Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 8
4.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Stonewall Cymru a Brook
Cymru.
5 Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 9
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro EJ Renold.
5.2 Cytunodd yr Athro Renold i ddarparu data i'r Pwyllgor ar nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol sy'n cyrraedd y trothwy ar gyfer bod yn drosedd.
5.3 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunwyd y byddai'r cwestiynau nas gofynnwyd yn cael eu hanfon at y tyst i gael ymateb ysgrifenedig.
6 Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 10
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o blith rhieni a gofalwyr.
6.2 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunwyd y byddai'r cwestiynau nas gofynnwyd yn cael eu hanfon at y tystion i gael ymateb ysgrifenedig.
7 Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 11
7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r gwasanaethau ieuenctid.
8 Papurau i’w nodi
8.1 Cafodd y papurau eu nodi.
8.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ei barn ar y
papur i’w nodi 3.
9 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a’r cyfarfod cyfan ar 31 Mawrth.
9.1 Derbyniwyd y
cynnig i gynnal gweddill y cyfarfod yn breifat.
10 Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - trafod y dystiolaeth
10.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.